Croeso i Wonderfest 2022
Wonderfest yw ein gŵyl flynyddol ar gyfer pobl ifanc 13+ oed, rhieni a gweithwyr proffesiynol sy’n gweithio gyda phobl ifanc i gefnogi eu lles.
Mae gennym amserlen orlawn o sesiynau a gweithdai ar-lein dros benwythnos 15, 16 a 17 Gorffennaf.
Dydd Gwener 15 Gorffennaf yw’r digwyddiad ar-lein i weithwyr proffesiynol. Mae hwn wedi’i anelu at athrawon, staff sefydliadol, ac unrhyw un sy’n gweithio gyda phobl ifanc. Bydd y diwrnod hwn yn canolbwyntio ar ddod ag arferion sydd wedi’u llywio gan drawma yn fyw wrth weithio gyda phobl ifanc. Mae tocynnau ar gyfer y diwrnod proffesiynol yn costio £95.
Dydd Sadwrn 16 Gorffennaf yw’r diwrnod llesiant ar-lein i bobl ifanc a rhieni/gofalwyr. Mae tocynnau ar gyfer y diwrnod hwn AM DDIM!
Dydd Sul 17 Gorffennaf mae gennym ŵyl ‘pop up’ AM DDIM, yn Abertawe. Mae’r digwyddiad yn cael ei cynnal yn Amgueddfa Genedlaethol y Glannau Abertawe o 11am – 4pm.
Gobeithiwn y byddwch yn ymuno â ni, bydd yn llawer o hwyl!
Y Rhaglen
Dydd Gwener 15 Gorffennaf
09:30 - 09:45
Croeso
Cyflwyno'r gynhadledd
Rocio CifuentesBydd Comisiynydd Plant Cymru, Rocio Cifuentes yn agor y diwrnod ar-lein yma ar gyfer gweithwyr proffesiynol.
Tocynnau09:45 - 10:45
Seminar
Newid o ‘fod’ yn ystyriol o drawma i ‘wneud’ mewn modd sy’n ystyriol o drawma
Lisa CherryBydd ein prif siaradwr Lisa Cherry, yn siarad am symud o ‘fod’ yn ystyriol o drawma i ‘wneud’ mewn modd sy’n ystyriol o drawma.
Tocynnau11:00 - 11:30
Seminar
Cyflwyniad i newid systemau: plant a theuluoedd
Dr Jen Daffin & Rebecca ThomasBydd Dr Jen Daffin (Platfform) a Rebecca Thomas (Achub y Plant) yn rhoi trosolwg o’r gwaith arloesol y maent yn ei wneud gyda phlant a theuluoedd yn y blynyddoedd cynnar.
Tocynnau11:45 - 12:45
Seminar
Sut rydym yn gweithio gyda phobl ifanc yn Platfform
Siobhan ParryBydd ein Pennaeth Gwasanaethau Pobl Ifanc yn eich arwain drwy ddull Platfform o weithio gyda phobl ifanc.
Tocynnau13:45 - 14:45
Seminar
Seicoleg cadarnhaol a sgiliau cefnogi ar gyfer pobl ifanc
Claire HarrisonBydd Claire Harrison o Worth It yn eich hyfforddi ar ddefnyddio seicoleg gadarnhaol gyda'r bobl ifanc yr ydych yn gweithio gyda.
Tocynnau15:00 - 16:15
Sgwrs a Thrafodaeth Banel
Cefnogi pobl ifanc LGBTQIA+
Christian Webb & Pobl IfancBydd Christian Webb a phanel o bobl ifanc yn cynnig cyfle i ddysgu mwy am y materion sy’n wynebu pobl ifanc LGBTQ+ ac yn cyflwyno'r pethau i’w hystyried wrth eu cefnogi.
Tocynnau16:30 - 17:00
17:00 - 18:00
Cyflwyniad
Blaenoriaethu iechyd meddwl a llesiant plant a phobl ifanc yng Nghymru
Lynne Neagle ASBydd Lynne Neagle, Dirprwy Weinidog Iechyd Meddwl a Llesiant Llywodraeth Cymru yn rhannu ei chynlluniau ar gyfer y blynyddoedd i ddod.
Tocynnau18:00 - 18:15
Seminar
Sylwadau cloi
Ewan HiltonBydd Prif Swyddog Gweithredol Platfform yn cloi'r diwrnod gyda rhywfaint o fewnwelediad a gwybodaeth am ein prosiectau yn y dyfodol.
TocynnauDydd Sadwrn 16 Gorffennaf
09:30 - 10:00
Croeso
Y ffordd Platfform o weithio a chyflwyniad
Siobhan ParryBydd Siobhan Parry, Pennaeth Gwasanaethau Pobl Ifanc yn rhannu sut rydym yn gweithio gyda phobl ifanc yn Platfform a pham fod hyn yn gweithio.
Get tickets10:00 - 10:45
Seminar
Sut i gyfathrebu â'ch gilydd mewn modd caredig
Claire HarrisBydd Claire Harris o Worth - It Coaching yn ein harwain drwy weithdy ar sut i gyfathrebu â’n gilydd mewn modd caredig.
Tocynnau11:00 - 11:45
Seminar
Llinell gymorth atal hunanladdiad Papyrus
Kate HeneghanBydd Papyrus, yr elusen ar gyfer atal hunanladdiad ifanc, yn rhannu popeth sydd angen i chi ei wybod am eu llinell gymorth a beth i'w ddisgwyl os byddwch yn eu ffonio.
Tocynnau12:00 - 12:45
Seminar
Pwyntiau cadarnhaol cyfryngau cymdeithasol
Emil HoweMae Emil Howe yn Arbenigwr Lles Digidol, a fydd yn siarad am bethau cadarnhaol y cyfryngau cymdeithasol a sut i'w ddefnyddio'n ddiogel i gael yr hyn sydd ei angen arnoch.
Tocynnau13:00 - 13:45
Seminar
Y gwasanaeth llinell gymorth i blant a phobl ifanc
Jo McCarthyBydd Meic, y gwasanaeth llinell gymorth i blant a phobl ifanc hyd at 25 oed yng Nghymru, yn rhannu popeth sydd angen i chi ei wybod am y cymorth y gallant ei gynnig.
Tocynnau14:00 - 14:45
Seminar
Cefnogi person ifanc i gwestiynu ei hunaniaeth o ran rhywedd
Morgan ClarkBydd Morgan Clark yn siarad am sut y gallwch chi gefnogi person ifanc i gwestiynu ei hunaniaeth o ran rhywedd mewn modd cadarnhaol.
TocynnauDydd Sul 17 Gorffennaf
11:00 - 16:00
Gwyl pop-up
Abertawe
PlatfformYmunwch â ni yn ein gŵyl yn Amgueddfa Genedlaethol y Glannau i ddathlu popeth sy’n lles i bobl ifanc a’u teuluoedd! Bydd llawer o weithgareddau, alpacas, celf a chrefft, stondinau yn eich hysbysu am y gefnogaeth sydd ar gael yn yr ardal, busnesau bach pobl ifanc yn gwerthu eu pethau bendigedig, cerddoriaeth a llawer, llawer mwy! Mae'r tocynnau AM DDIM felly dewch i ymuno â ni am ddiwrnod llawn hwyl!
Tocynnau